Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

 

Adroddiad monitro sybsidiaredd haf 2013 (Mai – Awst 2013)

 

Dyddiad y papur:

Medi 2013

 


Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil at ddefnydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Owain Roberts yn y Gwasanaeth Ymchwil
Estyniad ffôn 8584
E-bost: (
owain.roberts@cymru.gov.uk)

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG



 

 


 

Cynnwys

1.          Cyflwyniad. 3

2.          Y broses fonitro. 4

3.          Trosolwg o gynigion deddfwriaethol drafft yr UE sydd wedi dod i law (Mai - Awst 2013) 5

3.1.     Cynigion deddfwriaethol yr UE nad oeddent yn codi unrhyw bryderon sybsidiaredd. 6

 

 

 

 



1.        Cyflwyniad

O dan Reol Sefydlog 21, caiff ‘pwyllgor cyfrifol’ yn y Cynulliad (ar hyn o bryd, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol) ystyried deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, a hynny er mwyn ystyried a yw’n cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd.

Mae egwyddor sybsidiaredd wedi’i hymgorffori yn Erthygl 5 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd.

1. The limits of Union competences are governed by the principle of conferral. The use of Union competences is governed by the principles of subsidiarity and proportionality.

2. Under the principle of conferral, the Union shall act only within the limits of the competences conferred upon it by the Member States in the Treaties to attain the objectives set out therein. Competences not conferred upon the Union in the Treaties remain with the Member States.

3. Under the principle of subsidiarity, in areas which do not fall within its exclusive competence, the Union shall act only if and in so far as the objectives of the proposed action cannot be sufficiently achieved by the Member States, either at central level or at regional and local level, but can rather, by reason of the scale or effects of the proposed action, be better achieved at Union level.

The institutions of the Union shall apply the principle of subsidiarity as laid down in the Protocol on the application of the principles of subsidiarity and proportionality. National Parliaments ensure compliance with the principle of subsidiarity in accordance with the procedure set out in that Protocol.

4. Under the principle of proportionality, the content and form of Union action shall not exceed what is necessary to achieve the objectives of the Treaties.

The institutions of the Union shall apply the principle of proportionality as laid down in the Protocol on the application of the principles of subsidiarity and proportionality.[1]

Yn ogystal, llywodraethir y dull o gymhwyso’r egwyddor hon gan y Protocol ar Gymhwyso Egwyddorion Sybsidiaredd a Chymesuredd. Mae’r rhan sy’n berthnasol at ddibenion gwaith y Cynulliad wedi’i chynnwys ym mharagraff cyntaf Erthygl 6:

Any national Parliament or any chamber of a national Parliament may, within eight weeks from the date of transmission of a draft legislative act, in the official languages of the Union, send to the Presidents of the European Parliament, the Council and the Commission a reasoned opinion stating why it considers that the draft in question does not comply with the principle of subsidiarity. It will be for each national Parliament or each chamber of a national Parliament to consult, where appropriate, regional parliaments with legislative powers. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil][2]

 

2.        Y broses fonitro

Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cyflawni ei swyddogaeth monitro sybsidiaredd yn effeithiol, fel y nodir yn y Rheolau Sefydlog, mae swyddogion y Cynulliad yn monitro holl gynigion deddfwriaethol drafft yr UE sy’n ymwneud â Chymru yn systematig er mwyn gweld a ydynt yn codi pryderon sybsidiaredd. Amlinellir y modd y mae swyddogion y Cynulliad yn monitro’r cynigion hyn isod:

¡  Yn gyntaf, rhoddir gwybod i’r Cynulliad am yr holl gynigion a gaiff eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd drwy restr a gaiff ei hanfon gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar ran Llywodraeth y DU at Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad.

¡  Yna, bydd yr adran berthnasol o Lywodraeth y DU yn paratoi memorandwm esboniadol a fydd wedi’i seilio ar y cynigion a amlinellir yn y rhestr. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd rhwng pedwar a chwe wythnos i’r dyddiad y ceir yr hysbysiad gwreiddiol gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae pob memorandwm yn cynnwys asesiad o effaith y cynigion ar bolisïau (gan gynnwys asesiad o farn adran berthnasol Llywodraeth y DU ynghylch a yw’r cynnig yn codi unrhyw bryderon sybsidiaredd). Mae copi o bob memorandwm yn cael ei anfon at y Cynulliad drwy’r Gwasanaeth Ymchwil.

¡  Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn hidlo’r memoranda sy’n dod i law er mwyn ystyried a yw’r cynigion cysylltiedig yn ‘ddeddfwriaethol’ neu’n ‘anneddfwriaethol’[3] ac a ydynt yn cynnwys materion a allai fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (hynny yw, materion sy’n berthnasol i faterion datganoledig).

¡  Bydd y memoranda hynny sy’n gysylltiedig â chynigion sy’n ‘ddeddfwriaethol’ ac sy’n ymdrin â materion sydd o ddiddordeb i’r Cynulliad yn cael ystyriaeth bellach gan swyddogion o Wasanaeth Cyfreithiol y Cynulliad, Swyddfa Brwsel a’r Gwasanaeth Ymchwil er mwyn penderfynu a ydynt yn codi pryderon sybsidiaredd.

¡  Os bydd cynnig yn codi pryderon sybsidiaredd, bydd swyddogion y Cynulliad yn rhoi gwybod ar unwaith i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Yna, gofynnir i Aelodau ystyried a ddylai’r Pwyllgor ofyn i’r naill Dŷ neu’r llall yn San Steffan, neu i’r ddau ohonynt, gyhoeddi ‘barn resymedig’ ar y cynnig neu beidio.

¡  Bydd y cynigion hynny sy’n ‘ddeddfwriaethol’ ac sy’n berthnasol i faterion datganoledig ond nad ydynt yn codi pryderon sybsidiaredd yn cael eu coladu mewn adroddiad monitro a gaiff ei gynhyrchu gan y Gwasanaeth Ymchwil. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei ystyried yn bapur i’w nodi gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ym mhob tymor o fewn blwyddyn yn y Cynulliad (tymor yr hydref [Medi–Rhagfyr], tymor y gwanwyn [Ionawr–Ebrill] a thymor yr haf [Mai–Awst]).

Felly, mae’r adroddiad hwn yn cynnwys trosolwg cyffredinol o’r cynigion deddfwriaethol drafft a anfonwyd i Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad gan yr UE rhwng mis Mai a mis Awst 2013. Mae hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynigion hynny y nodwyd eu bod yn ‘ddeddfwriaethol’ ac yn berthnasol i faterion datganoledig y Cynulliad gan swyddogion y Cynulliad.

Fodd bynnag, noder mai dim ond cynigion ‘deddfwriaethol’ a gaiff eu monitro yn yr adroddiad hwn. Nid yw’n cynnwys manylion unrhyw ‘gynigion anneddfwriaethol’ a allai fod yn berthnasol i waith y Cynulliad. Mae’r rhain yn cael eu monitro ar wahân gan y Gwasanaeth Ymchwil.

3.        Trosolwg o gynigion deddfwriaethol drafft yr UE sydd wedi dod i law (Mai - Awst 2013)

Cafodd Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad gyfanswm o 370 o femoranda gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chynigion yr UE rhwng 1 Mai a 31 Awst 2013.

O’r holl gynigion hynny, nododd swyddogion y Cynulliad fod 18 ohonynt yn ‘ddeddfwriaethol’ ac o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Yn dilyn gwaith dadansoddi pellach gan swyddogion o Wasanaeth Cyfreithiol y Cynulliad, Swyddfa Brwsel a’r Gwasanaeth Ymchwil, penderfynwyd nad oedd yr un o’r 18 o gynigion yn codi pryderon sybsidiaredd. Gwelir isod fanylion am y cynigion hyn.


 

3.1.         Cynigion deddfwriaethol yr UE nad oeddent yn codi unrhyw bryderon sybsidiaredd

Dyddiad yr anfonwyd y memorandwm

Teitl a disgrifiad

8 Mai 2013

Cynnig diwygiedig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar Gronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop (COM(2013)245).

Mae’r cynnig diwygiedig hwn yn ceisio cysoni’r system ar gyfer rheoli Cronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop â’r drefn ar gyfer cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd eraill o dan y Rheoliad Darpariaethau Cyffredin.

 

 

9 Mai 2013

Cynnig i gael Penderfyniad gan y Cyngor er mwyn pennu’r safbwynt y dylai’r Undeb Ewropeaidd ei arddel ar y Pwyllgor ar Gaffael gan Lywodraethau mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n rhoi rhai o ddarpariaethau’r Protocol i Ddiwygio’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau ar waith (COM(2013)142).  

Cynnig i gael Penderfyniad gan y Cyngor ar ddod â’r Protocol i Ddiwygio’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau i ben (COM(2013)143).

Mae’r cynigion hyn yn ceisio dod â’r ‘Protocol’ i ddiwygio’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau i ben ar ran yr UE. Cytundeb rhyngwladol o dan Sefydliad Masnach y Byd yw’r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau, ac mae’r sawl sy’n ei lofnodi’n cytuno ar y cyd i wneud eu marchnadoedd cyhoeddus a’u marchnadoedd cyfleustodau yn agored.

 

 

14 Mai 2013

Cynnig diwygiedig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor i osod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Cydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop a gwmpesir gan y Fframwaith Strategol Cyffredin a gosod darpariaethau cyffredinol ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Gronfa Cydlyniant a diddymu Rheoliad (COM(2013)246).

Mae’r cynnig hwn yn diwygio’r Rheoliad Darpariaethau Cyffredin i wneud y system ar gyfer rheoli Cronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop yn gydnaws â’r polisi cydlyniant.

 

 

 

28 Mai 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar iechyd anifeiliaid (COM(2013)260).

Mae’r cynnig hwn yn pennu fframwaith cyfreithiol i ategu Strategaeth yr UE ar Iechyd Anifeiliaid, a gyhoeddwyd yn 2007. Amcanion penodol y Rheoliad arfaethedig yw: pennu un fframwaith rheoliadol wedi’i symleiddio sy’n nodi’r amcanion, y cwmpas a’r egwyddorion ar gyfer ymyrraeth reoliadol, sy’n seiliedig ar arferion llywodraethu da ac sy’n cydymffurfio â safonau rhyngwladol (ee OIE) fel bod modd ymateb yn gyflym i achosion o glefydau, sicrhau cysondeb ym mhob rhan o faes iechyd anifeiliaid, lleihau effaith clefydau anifeiliaid ar iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd, lles anifeiliaid, yr economi a’r gymdeithas i’r graddau y mae hynny’n bosibl, a sicrhau bod y farchnad fewnol o ran anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yn gweithredu’n ddiffwdan.    

Mae’r cynnig yn berthnasol i COM(2013)262, 265 a 267 isod.

 

 

28 Mai 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynhyrchu deunydd atgynhyrchiol planhigion a’u cynnig ar y farchnad (cyfraith deunydd atgynhyrchiol planhigion) (COM(2013)262).

Mae’r cynnig yn ceisio diweddaru, symleiddio a chydgrynhoi cyfundrefn reoleiddio bresennol yr UE sy’n cynnwys 12 o gyfarwyddebau a thua 90 o ddeddfau eilaidd, a gaiff eu diddymu.

Er bod y rheoliad arfaethedig yn cynnwys llawer o agweddau ar gyfundrefn bresennol yr UE, mae hefyd yn cynnwys gofynion ychwanegol sy’n ceisio egluro a chysoni dulliau gweithredu presennol yr UE er mwyn sicrhau y gall deunydd atgynhyrchiol planhigion gael eu trosglwyddo heb gyfyngiadau.

 

 

28 Mai 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau i ddiogelu rhag plâu sy’n effeithio ar blanhigion (COM(2013)267).

Mae’r cynnig yn ceisio atgyfnerthu’r drefn bresennol o ran iechyd planhigion er mwyn diogelu amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, parciau, gerddi a’r amgylchedd yn Ewrop drwy atal plâu a chlefydau niweidiol estron rhag cyrraedd Ewrop a lledu. Yn benodol, mae’r cynnig yn ceisio adfer rhai o ddiffygion y drefn bresennol er mwyn rhoi fframwaith rheoliadol cadarn, cynaliadwy a thryloyw ar waith.

¡  Mae’r cynnig yn darparu rheolau technegol manwl ar y canlynol:

¡  Atal plâu a chlefydau niweidiol rhag cyrraedd Ewrop;

¡  Blaenoriaethu risgiau;

¡  Rheoli achosion o blâu a chlefydau;

¡  Gwella rheolaethau mewnol; a

¡  Sicrhau gwell prosesau cyfathrebu a chydweithio.

Mae’r rheoliad arfaethedig yn un o bump mewn pecyn o gynigion cysylltiedig i ddiweddaru a symleiddio rheolaethau yn y gadwyn fwyd amaeth a gwella cysondeb ledled yr UE. Mae’r cynigion eraill yn ymwneud â rheolaethau o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, deunydd atgynhyrchiol planhigion ac iechyd anifeiliaid, a mesurau ariannol.

 

 

29 Mai 2013

Diwygio’r Rheoliad Cyfrifon Amgylcheddol (COM(2013)247).

Mae’r cynnig hwn yn diwygio’r Rheoliad Cyfrifon Amgylcheddol er mwyn rhoi tri modiwl ychwanegol o gyfrifon ar waith, sef:

¡  Gwariant ar Ddiogelu’r Amgylchedd;

¡  Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol; a

¡  Chyfrifon Llif Ffisegol Ynni.

 

 

3 Mehefin 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hyrwyddo rhyddid pobl a busnesau i symud, a hynny drwy symleiddio’r broses o dderbyn rhai dogfennau cyhoeddus penodol yn yr UE (COM(2013)228).

Mae’r rheoliad hwn yn cynnig y dylai dogfennau cyhoeddus a grewyd yn yr aelod-wladwriaethau gael eu heithrio rhag bob math o ‘gyfreithloni’. Mae ‘cyfreithloni’ yn cyfeirio at gadarnhau bod y llofnod, y sêl neu’r stamp ar ddogfen gyhoeddus yn ddilys.

Diffinnir dogfennau cyhoeddus at ddibenion y cynnig fel rhai a gyhoeddir gan awdurdodau aelod-wladwriaeth, ac sy’n cynnwys tystiolaeth ffurfiol mewn perthynas â genedigaeth, marwolaeth, enw, priodas neu bartneriaeth gofrestredig, statws fel rhiant neu fabwysiadwr, preswylfa, dinasyddiaeth a chenedligrwydd, eiddo tiriog, statws cyfreithiol a chynrychiolaeth unrhyw gwmni neu fenter arall, hawliau eiddo deallusol a diffyg cofnod troseddol.   Yn y DU, nid yw’n ofynnol i ddogfennau a ddefnyddir yn y DU gael eu cyfreithloni.

Mae’r Rheoliad hefyd yn cynnig sefydlu ffurflenni safonol amlieithog yn yr UE ar gyfer genedigaeth, marwolaeth, priodas, partneriaethau cofrestredig a statws cyfreithiol a chynrychiolaeth unrhyw gwmni neu fenter arall. Yn ogystal, gellid sefydlu ffurflenni safonol maes o law ar gyfer dogfennau o ran enw, statws fel rhiant neu fabwysiadwr, preswylfa, dinasyddiaeth a chenedligrwydd, eiddo tiriog, hawliau eiddo deallusol a diffyg cofnod troseddol.

 

 

3 Mehefin 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gymhwysir i sicrhau y gweithredir cyfreithiau o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion, deunydd atgynhyrchiol planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (COM(2013)265).

Mae’r rheoliad hwn yn berthnasol i COM(2013)267 (gweler uchod) ac mae’n cynnig fframwaith newydd ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol, fel ymchwiliadau ac archwiliadau, a gynhelir gan aelod-wladwriaethau a’u hawdurdodai gorfodi dirprwyedig i gadarnhau a yw busnesau’n cydymffurfio â’r gyfraith o ran y gadwyn fwyd amaeth.

Mae’r cynnig yn ceisio symleiddio’r fframwaith deddfwriaethol presennol a chreu dull mwy integredig o ran rheolaethau swyddogol ar hyd y gadwyn fwyd amaeth yn ei chyfanrwydd drwy gynnwys rheolaethau ar gyfer bwyd, bwyd anifeiliaid, iechyd a lles anifeiliad, iechyd planhigion a deunydd atgynhyrchiol planhigion o fewn ei gwmpas.

 

 

7 Mehefin 2013

Cynnig gan Senedd Ewrop a’r Cyngor i ddiwygio Rheoliad (yr UE) Rhif 528/2012 ynghylch cynnig cynhyrchion bioladdol ar y farchnad a’u defnyddio, gan ystyried rhai amodau o ran mynediad i’r farchnad (2013/0150(COD)).

Cemegion a ddefnyddir i reoli organebau niweidiol yw bioladdwyr, er enghraifft cadwolion pren, diheintyddion, gwenwyn llygod a phryfladdwyr. Cânt eu rheoleiddio ar hyn o bryd gan Reoliad newydd uniongyrchol yr UE Rhif 528/2012 a ddaeth i rym ar 1 Medi 2013.

Mae’r cynnig yn ceisio gwneud diwygiadau pellach i’r Rheoliad er mwyn cywiro ambell wall.

 

 

14 Mehefin 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor i sefydlu fframwaith ar fynediad y farchnad i wasanaethau porthladd a thryloywder ariannol porthladdoedd (COM(2013)295 & 296).

Mae’r cynigion hyn yn ceisio gosod fframwaith rheoliadol sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd a chystadleurwydd holl borthladdoedd yr UE a chyfrannu at eu gallu i ymdopi â mwy o alw yn y sector trafnidiaeth a logisteg.

Byddai’r Rheoliad arfaethedig yn darparu ar gyfer y canlynol:

¡  sefydlu’r egwyddor o ryddid i ddarparu mathau penodol o wasanaethau porthladd, yn amodol ar ofynion penodol;

¡  gellir cyfyngu ar nifer y darparwyr sy’n cystadlu a’i gilydd, ac os gosodir cyfyngiad, rhaid cael proses ddethol dryloyw ar gyfer contractau;

¡  gall aelod-wladwriaethau osod goblygiadau gwasanaeth cyhoeddus, ac o dan yr amgylchiadau hynny gallant ddewis cadw gwasanaethau porthladd yn fewnol, ac felly ni fydd yn rhaid eu tendro;

¡  darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gan awdurdodau cyhoeddus fod yn dryloyw a gofynion cyfrifyddu penodol eraill; 

¡  gofynion sy’n ymwneud â’r ffioedd a godir am wasanaethau porthladd (gan gynnwys trin cargo) a seilwaith, gan gynnwys y pŵer i’r Comisiwn fabwysiadu deddfau dirprwyedig mewn perthynas ag egwyddorion ffioedd porthladdoedd a’r sail ar eu cyfer;

¡  gofynion o ran yr angen i borthladdoedd ymgynghori â defnyddwyr porthladdoedd a rhanddeiliaid eraill;

¡  creu neu bennu’r trefniadau ar gyfer ‘corff goruchwylio newydd’ y byddai angen iddo ymchwilio i gwynion o ran achosion honedig o dorri gofynion y Rheoliad, a gwneud dyfarniad yn eu cylch.

 

 

21 Mehefin 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod darpariaethau ar gyfer rheoli gwariant mewn perthynas â’r gadwyn fwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, ac mewn perthynas ag iechyd planhigion a deunydd atgynhyrchiol planhigion (COM(2013)327).

Mae’r cynnig yn pennu fframwaith strategol ac amcanion clir ar gyfer rhoi rhaglenni a ariennir ar waith. Bydd yn gosod dangosyddion ar gyfer llwyddiant ac yn darparu mwy o eglurder o ran cyfraddau ariannu.

Mae’r rheoliad hefyd yn pennu’r cwmpas a’r amcanion ar gyfer gwariant ar fwyd a bwyd anifeiliaid. Yn unol â’r trafodaethau ar y fframwaith ariannol amlflwydd, mae hefyd yn pennu’r terfyn uchaf o ran gwariant mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2020 yn ei gyfanrwydd.

 

 

10 Gorffennaf 2013

Cynnig i gael Penderfyniad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wella cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Cyflogaeth Gyhoeddus (COM(2013)430).

Mae’r cynnig yn ceisio ehangu, atgyfnerthu a chydgrynhoi mentrau parhaus (fel y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Penaethiaid Gwasanaethau Cyflogaeth Gyhoeddus) er mwyn moderneiddio Gwasanaethau Cyflogaeth Gyhoeddus a gwella’r ffordd y mae marchnadoedd llafur yn gweithio.

 

 

 

17 Gorffennaf 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fonitro, adrodd a gwirio allyriadau carbon deuocsid o drafnidiaeth forol (COM(2013)480).

Mae’r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i allyriadau CO2 o longau (sydd â thunelledd o fwy na 5000 gros) gael eu monitro a bod adroddiadau’n cael eu cyflwyno’n flynyddol. Y cwmni sy’n gyfrifol am weithredu’r llong fyddai’n gyfrifol am fonitro a chyflwyno adroddiadau a byddai’r adroddiadau hynny’n cael eu gwirio gan ddilyswr achrededig annibynnol.

Mae’r cynnig hefyd yn diwygio Rheoliad presennol yr UE Rhif 525/2013 er mwyn cynnwys y gwaith o fonitro a chyflwyno adroddiadau ar allyriadau CO2 o drafnidiaeth forol.

 

 

1 Awst 2013

Cynnig i gael Penderfyniad ynghylch cyfranogiad yr Undeb mewn Rhaglen Ymchwil a Datblygu sydd â’r nod o gefnogi mentrau bach a chanolig sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil (COM(2013)493).

Mae’r cynnig yn nodi rheolau ar gyfer cymryd rhan yn Eurostars-2, y rhaglen sy’n dilyn Cydraglen Eurostars. Rhaglen ymchwil ar y cyd yw Eurostars sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig sy’n ymgymryd â gwaith Ymchwil a Datblygu i gyflawni gwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar y farchnad ar gyfer prosiectau trawswladol.

Mae’r Comisiwn yn cynnig y bydd Eurostars yn parhau fel rhaglen rhwng 2014 a 2020.

 

 

1 Awst 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan y Cyngor ar Gydfenter y Diwydiannau Bio (COM(2013)496).

Mae’r rheoliad yn ymwneud â chreu Cydfenter i Ddiwydiannau Bio gyda’r bwriad o’i gwneud yn bosibl arddangos technolegau newydd a datblygu modelau busnes newydd gan arwain at greu elfennau newydd i ddatblygu’r diwydiant cemegion, deunyddiau bio a chynhyrchion i ddefnyddwyr.

Prif amcan Cydfenter y Diwydiannau Bio yw annog mwy o gydweithio a chydgysylltu yn y diwydiannau bio ledled yr UE.

 

 

2 Awst 2013

Cynnig i gael Penderfyniad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyfranogiad yr Undeb yn y Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bywyd Bywiog a Byw â Chymorth, a gynhelir ar y cyd gan nifer o’r aelod-wladwriaethau (COM(2013)500).

Mae’r cynnig hwn yn ceisio galluogi’r Undeb Ewropeaidd i gyfrannu’n ariannol at y rhaglen a gynhelir gan nifer o’r aelod-wladwriaethau i ddatblygu datrysiadau TGCh o ran bywyd bywiog a byw â chymorth, sef y Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bywyd Bywiog a Byw â Chymorth (‘AAL2’).

Mae’r cynnig yn disgrifio’r model llywodraethu, y gweithdrefnau dewis prosiectau ac agweddau gweithredol eraill ar AAL2.

 

 

2 Awst 2013

Cynnig ar gyfer Rheoliad gan y Cyngor ar y Gydfenter o ran Cydrannau a Systemau Electronig ar gyfer Arweinwyr Ewropeaidd (COM(2013)501).

Mae’r rheoliad hwn yn ymwneud â chreu Cydfenter ar Gydrannau a Systemau Electronig ar gyfer Arweinwyr Ewropeaidd a fydd yn cyflawni ac yn ategu gwaith ymchwil ar lefel Ewropeaidd, gweithgareddau datblygu ac arloesi ym maes microelectroneg / nanoelectroneg, systemau planedig (embedded) a systemau clyfar (smart).

Bydd y Gydfenter hon yn cyfuno gwaith dwy gydfenter flaenorol, sef ARTEMIS (ar systemau planedig) ac ENIAC (ar nanoelectroneg) a bydd hefyd yn ategu gwaith ar systemau clyfar a nodwyd gan Blatfform Technoleg Ewrop ar Integreiddio Systemau Clyfar (EPoSS).

 



[1]Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, Fersiwn wedi’i chydgrynhoi o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, C83/204, 30 Mawrth 2010

[2]Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, Y Protocol ar Gymhwyso Egwyddorion Sybsidiaredd a Chymesuredd, C310/207, 16 Rhagfyr 2004

[3] Dim ond mewn perthynas â chynigion ‘deddfwriaethol’ drafft y gellir codi pryderon am sybsidiaredd.